Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 28 Chwefror 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Gwerthusiad Annibynnol o Fodel Ymateb Clinigol y Gwasanaethau Ambiwlans Brys (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid Arloesol: Model Buddsoddi Cydfuddiannol (30 munud)
· Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 1 Mawrth 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru (45 munud)
· Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2016-17 (60 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16 (60 munud)
· Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud)
Dydd Mercher 8 Mawrth 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (45 munud)
Busnes y Cynulliad
NNDM6210
Lee Waters (Llanelli)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel: seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.
2. Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.
3. Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.
Dydd Mercher 14 Mawrth 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Bil Diddymu'r Hawl i Brynu (Cymru) (60 munud)
· Dadl: Y Rhaglen Cartrefi Cynnes (60 munud)
Dydd Mercher 15 Mawrth 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)